BMS World Mission

Digwyddiadau

Un o'r prif ffyrdd y gall eglwysi ac unigolion gael perthynas ddyfnach â gwaith BMS World Mission yw trwy'r amrywiaeth o gyfarfodydd a gynhelir yn enw BMS Cymru a grwpiau perthynol.

 

Yn yr adran hon ceir gwybodaeth am brif ddigwyddiadau BMS Cymru yn ystod y misoedd i ddod.

Hydref 2008

Dydd Mercher 1 Hydref 2008 - Adran Genhadol y Chwiorydd Gorllewin Morgannwg, Canolfan Gristnogol, Castle Street, Maesteg am 2pm a 5.30pm. Siaradwraig Rosemary Williams, gweithwraig BMS tymor byr ym Mharagwai

 

Dydd Mercher 8 Hydref 2008 - Adran Genhadol Llyn ac Eifionydd, Capel y Beirdd am 2pm. Siaradwraig Sian Arwel Davies, Llywydd Adran Genhadol y Chwiorydd Cymru

 

Dydd Mawrth 21 Hydref 2008 - Adran Genhadol y Chwiorydd Môn, Tabernacl, Bodedern am 2pm a 4.30pm. Siaradwraig Sian Arwel Davies, Llywydd Adran Genhadol y Chwiorydd Cymru

 
Tachwedd 2008

Dydd Llun 17 Tachwedd - Dydd Mercher 19 Tachwedd 2008, Cynhadledd Gweinidogion Cymru Gyfan, Gwesty'r Merlewood, Saundersfoot, yn cynnwys cyflwyniad BMS