Fy enw i yw Catrin Adey. Rwy’n 18 mlwydd oed ac yn dod o Dremeirchion yng Ngogledd Cymru. Cefais fy magu mewn teulu Cristnogol ac wedi mynychu Eglwys gydol fy mywyd. Pan oeddwn i'n wyth mlwydd oed penderfynais ddod yn Gristion a dilyn Iesu. Pan oeddwn i tua 14 mlwydd oed cefais fy medyddio. Ond yna, tua blwyddyn wedyn, es trwy amser anodd pan oedd fy ffydd yn isel iawn. Roeddwn i’n gwneud pethau er mwyn edrych yn ‘cool’ oherwydd roeddwn i’n meddwl bod rhaid i mi ffitio mewn efo pawb arall, ond doeddwn i ddim yn hapus o gwbl. Trwy fynd ar gwrs Souled Out yng Ngholeg y Bala ac i Soul Survivor dwy flynedd yn ôl des yn agos at Iesu eto ond mewn ffordd mwy real nag o’r blaen. Dros y ddwy flynedd diwethaf rwyf wedi tyfu llawer mwy yn fy ffydd ac wedi dod i adnabod Iesu lawer gwell.
Wrth fynd trwy amser o heb fod yn agos at Iesu a mynd trwy amser anodd rwyf wedi gweld y gwahaniaeth mae Duw yn ei wneud yn fy mywyd. Rwyf yn llawer hapusach rwan efo fy hun ac nid wyf yn teimlo bod rhaid i mi blesio neb heblaw Duw ei hun. Rwy'n mwy hyderus yn fy hun hefyd trwy wybod bod Duw yma efo fi o hyd ac yn rhoi’r nerth sydd ei angen i mi.
Mae mynd ar drip cenhadol wedi bod yn rhywbeth roeddwn eisiau ei wneud o hyd, ond pan gychwynais yn y chweched dosbarth teimlais bod yna lawer o bwysau arnaf i benderfynu beth oeddwn am ei wneud yn y dyfodol ac i dewis beth i wneud yn y Brifysgol. Oherwydd hyn teimlais nad oeddwn ddigon da i wneud gwaith cenhadol , ac felly nes i anghofio am y syniad o fynd ar drip cenhadol a mynd ymlaen i edrych am gwrs i wneud mewn Prifysgol.
Dwy flynedd yn ôl daeth Tîm Gweithredu BMS i fy Eglwys am wythnos, a thrwy ddod i’w hadnabod des i weld mai pobl normal oedden nhw a daeth hyn â’r syniad o fynd ar daith genhadol yn ôl ataf. Dois yn agos at un o’r bechgyn ar y tim, Ben, a ddaru o fy helpu i weld mai efo Duw ynof fi y gallwn wneud gwaith cenhadol. Anogodd fi i gwneud cais i fynd ar y cynllun Action Teams ond doeddwn i dal ddim yn argyhoeddiedig fy mod ddigon da i wneud y flwyddyn gap ond anfonais y ffurflen a mynd i’r cyfweliad.
Yn y cyfamser gwnes geisiadau i fynd i brifysgolion at fis Medi yma i wneud Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddiaeth. Yna derbyniais lythyr gan BMS yn dweud eu bod nhw wedi fy nerbyn a fy mod am fynd i Ffrainc ond ddaru’r llythyr dal ddim fy argyhoeddi mai dyma beth oedd Duw am i mi ei wneud. Rhai misoedd yn diweddarach cefais lythyr gan Brifysgol Cumbria yn dweud bod y cwrs y ceisiais amdano ddim am redeg fis Medi yma a felly bydd rhaid i mi gychwyn y flwyddyn nesaf neu dewis cwrs arall. Roedd hyn yn gadarnhad mai cynllun Duw oedd i mi fynd ar Action Team a’i fod wedi fy ngalw i gymryd y flwyddyn allan.
Rwyf yn mynd i Rouen, Gogledd Ffrainc am chwe mis efo Beckie, Matt a Katherine. Mae ardal Rouen yn cael ei rhannu yn ddwy ran gan yr afon, efo’r ochr gyfoethog ar y dde a’r ochr dlotach ar y chwith. Byddwn yn gweithio yn yr ardal ar y chwith sydd yn cael ei disgrifio fel ardal drefol difreintiedig. Byddwn ni’n gweithio efo gweithwyr cenhadol tymor hir BMS, Reuben a Katie Martin.
Byddwn ni’n rhan o fywyd yr Eglwys yn helpu efo’r ysgol Sul, cymryd rhan yn y gwasanaethau, rhedeg y grwpiau ieuenctid a llawer o bethau eraill. Byddwn hefyd yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar yr adeilad. Gan ein bod ni i gyd yn siarad Saesneg byddwn yn dysgu Saesneg yna. Byddwn yn cychwyn ystafell weddi ac yn agor a rhedeg caffi yn yr Eglwys hefyd. Rydym am aros mewn ardal difreintiedig ac ar ddau benwythnos pob mis byddwn yn gweithio efo’r plant ar y stad lle byddwn yn byw. Mae gan yr ardal boblogaeth fawr o Fwslemiaid ac efo’r wlad yn wlad seciwlar mi fydd yn her fawr i drio siarad â phobl am Dduw pan nad ydynt eisiau clywed amdano.
Rwyf wedi bod yn Birmingham am y tair wythnos ddiwethaf yn cael fy hyfforddi cyn mynd allan i Ffrainc. Rwyf wedi dysgu llawer amdanaf fy hun dros y cyfnod yma ac wedi dod i adnabod fy nhîm lawer gwell. Rwy’n edrych ymlaen at y sialens mae Duw wedi ei roi i mi ac i gael y cyfle i fynd allan i rannu cariad Duw efo gweddill y byd. Rwy’n edrych ymlaen at gael gweld y ffordd y bydd Duw yn gweithio yn y wlad yna ond hefyd i weld y ffordd bydd Duw yn gweithio trwom ni fel tîm hefyd! Rwy’n eithaf pryderus am yr iaith ac a fyddaf yn gallu cyfathrebu efo’r bobl yno. Mi wnes i gwrs Ffrangeg fel lefel A, felly mae gen i’r sylfeini ond rwy’n gobeithio y byddai’n gallu codi’r iaith i fyny yn ddigon sydyn.
Buaswn yn diolchgar iawn am eich gweddïau dros y flwyddyn gap gyfan - dyma rai o bethau i weddïo amdanynt:
• Dros y tîm, y bydd Duw yn rhoi nerth i ni a byddwn ni’n cydweithio'n dda
• Am nerth yn ein ffydd – y byddwn ni’n dod yn agosach at Dduw ac yn cofio i ymddiried ynddo Ef o hyd
• Na fydd problemau iaith yn ein rhwystro rhag gwneud y gwaith
• Dros Reuben a Katie – y bydd gennym berthynas dda efo nhw a byddwn ni’n cydweithio’n dda
• Dros yr holl waith y byddwn ni’n ei wneud yno.
I gadw mewn cysylltiad ac i ddilyn yr hanes gallwch fynd ar www.bmsworldmission.org/39922 ac yna clicio ar France Action Team – Journal lle bydden yn cadw blog o beth rydym yn ei wneud a bydd ein llythyrau gweddi yn ymddangos yno hefyd. Gallwch glicio ar e-mail newsletter sydd ar y ochr dde er mwyn cael ebost yn dweud pob tro rydym yn diweddaru’r blog. Mae yna gyfres o raglenni dogfen ar y wefan o’r enw L’Eglise lle gallwch ddilyn bywyd Reuben and Katie Martin allan yn Ffrainc a byddwn ni fel tîm yn ymddangos ar y rhaglen nesaf. Hefyd mae gennym ni gyfeiriad e-bost i’r tîm sef franceactionteam@hotmail.com