Wnaethon ni adael yn gynnar yn y bore, ar ein taith o ddwy awr o ganolfan y BMS, heibio’r holl adeiladau concrit, tuag at un o’r favelas, sef ardaloedd difreintiedig y ddinas. Y bore hwnnw, roedd rhaid i ni wthio i mewn i ddau fws ac un trên metro gorlawn, gyda’r holl bobl ar eu ffordd i’w gwaith. Cyrraeddon ni Vila Clementina, cartref i gynulleidfa fechan o Fedyddwyr sydd yn gwasanaethu’r gymuned o’i hamgylch.
Fe gerddon ni i fyny heol brysur y ddinas ac yna yng nghysgod adeiladau’r favela. Tu mewn, yr oedd fel dinas hollol wahanol. Roedd diffyg golau’r haul, gan fod yr adeiladau mor dal. Tu mewn, mae’r lonydd yn rhy gul i adael car heibio. Dydy hyn ddim yn broblem gan nad oes gan neb gar i’w yrru. Ym mhob man, mae dillad yn hongian allan i sychu. Lle nad oes dillad, gwelir y graffiti sydd yn gorchuddio’r ddinas, a’r gwifrau sydd yn bwydo’r tai bychain â trydan. Mae’n anodd gweld ble mae un tŷ yn gorffen a’r nesaf yn dechrau. Tu fewn i’r cymysgedd o bobl ceir pobl sydd yn gaeth i gyffuriau, alcohol ac ysmygu. Gwelir eu plant yn yr eglwys, sydd yn fendith i’n gwaith yma.
Fe gawsom groeso cynnes a brecwast gyda’r brodyr a chwiorydd yr eglwys fechan, cyn dechrau ein cwrs hyfforddiant i’w gweithwyr cenhadol yn y PEPE. Mae’r PEPE yn brosiect cymdeithasol BMS ers bron i 20 mlynedd. Mae PEPE yn derbyn plant 4 a 5 mlwydd oed, mewn 28 o eglwysi’r ddinas. Mae gennym genhadon lleol yn gweithio allan o’u heglwysi lleol i dderbyn y plant yma, fel estyniad o waith cymdeithasol eu heglwysi. Caiff y cenhadon eu cefnogi a’u hyfforddi gan grŵp o gydlynwyr swyddfa ABIAH, yng nganolfan y BMS.
Y prynhawn hwnnw, aethom allan i ymweld â rhieni plant y PEPE yn eu tai. Dydy bywyd yn y favela ddim yn hawdd. Er bod llawer o famau yn magu eu plant ar ben eu hunain, mae rhaid iddynt weithio, sydd yn creu problemau mawr ynglŷn â gofal plant. Mae llawer o blant yn aros gartref heb unrhyw ofal tra bod eu rhieni yn gweithio. Yn y favela, mae’r plant yn tyfu i fyny yn gweld y mwyafrif o bobl yn defnyddio cyffuriau ac alcohol gan fod diffyg gwaith a chymaint o tlodi. Dydy deiet y plant ddim mor iachus ag a fyddai’n ddymunol, ond mae pob plentyn sydd yn mynychu’r PEPE yn derbyn platiad o fwyd y dydd. Breuddwyd y rhieni i’w plant yw addysg dda, hapusrwydd, swydd dda yn y dyfodol a rhyddid rhag y cyffuriau sy'n dinistrio’r gymuned.
Yn ychwanegol i gyfrannu at ddatblygiad addysgiadol y plant, mae’r PEPE hefyd yn cyrraedd aelodau’r gymuned trwy ymweliadau â rhieni’r plant. Nod y rhain yw i ddyfnhau’r berthynas rhwng y plant a’u rhieni ac i ddarparu cymorth lle bo angen. Yn ystod yr ymweliadau hyn, mae rhai plant bach yn gofyn am weddi dros eu rhieni, sydd yn fendith i weld. Mae’r beiblau a ddarparwyd trwy’r PEPE i bob plentyn hefyd yn allweddol i’r gwaith yma. Mae’r plant yn ail-adrodd y straeon i’w rhieni.
Y mae’n fraint gweld yr Arglwydd yn gweithio o fewn y bywydau a’r cymunedau yma ac y mae’n bleser i fod yn rhan o’r broses o drawsffurfio cymunedau.
Gan Barbara Knoyle, São Paulo