Apel gymorth brys
Pan fydd trychinebau yn taro mannau ble mae BMS World Mission yn gallu ymateb mewn modd effeithiol a dibynadwy byddwn y defnyddio ein gwefan i wneud yr apêl gychwynnol am eich cefnogaeth. Edrychwch yma yn gyntaf.



Fe ddigwydd trychinebau heb falio dim am amseru, na ffiniau nag unrhyw sefyllfa wleidyddol. Pan ddaw trychineb, y tlotaf o'r tlodion a'r sawl heb y modd o ailadeiladu eu bywydau yw'r cyntaf yn aml i ddioddef. Dylid galluogi Cristnogion i ymateb yn sydyn ac mewn ffordd a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Mae BMS yn ymateb i drychinebau mewn tri cham:
Darpariaeth gyflym o gymorth meddygol a materol ble mae trychineb wedi dinistrio anghenion sylfaenol bywyd…
…megis darparu lloches, bwyd, dŵr, moddion, a chyfleusterau coginio
Adfer y gwasanaethau angenrheidiol sydd wedi eu dinistrio...
...megis helpu ailadeiladu cartrefi ac adnewyddu offer coll neu ddrylliedig sydd eu hangen ar gyfer bywoliaeth (ffermio, pysgota, ayyb)
Gwella ystod ac ansawdd gwasanaethau…
…megis dysgu sgiliau newydd i wella cyfleoedd a safonau; bob amser yn symud o ddibyniaeth tuag at annibyniaeth
Deunydd Apêl
I archebu adnoddau ar-lein ewch i'r dolenni isod
Neu ffoniwch 01235 517617
Gellir defnyddio ein hadnoddau Apêl Gymorth rhad pan fyddwch yn lansio apêl, neu ar unrhyw adeg i godi arian at ein gwaith cymorth argyfwng yn gyffredinol:
- Poster hyrwyddol
- Taflenni (pecynnau o 20)
- Amlenni rhodd (pecynnau o 20)
(Noder mai deunydd Saesneg yw'r rhain)
- Cyflwyniad PowerPoint Cymraeg gellir ei lawrlwytho
| Ymlyniad | Maint |
|---|---|
| relief-remittance-form.pdf | 888.23 KB |
Adnoddau orderable
Adnoddau i'w lawrlwytho
Margaret Swires describes how BMS helped people ...
