Ar y ffordd i Tsieina
Am y tro cyntaf mewn bron i 60 mlynedd, bydd gan BMS World Mission weithwyr gyda phartner newydd yn Tsieina ym Medi.
Bydd Sally Ball a Rhoda McDonald yn treulio pedwar mis fel gwirfoddolwyr yn dysgu Saesneg i ddosbarthiadau o 50 o blant mewn ysgolion Tsieineaidd trwy Sinoteach International yn Yantai.
Ymatebodd Sally a Rhoda i gais BMS am bobl i wasanaethu yn Tsieina, yn dilyn ymweliad gan ddirprwyaeth i'r wlad fis Medi diwethaf.
I Sally, sydd yn dod o Gaerffili, mae'n gyfle i ddychwelyd at ei gwreiddiau.
Cafodd ei geni yn Xi’an ym 1942 a thyfu i fyny yn Tsieina gyda'i theulu, a oedd yn genhadon gyda BMS.
Roedd ei rhieni Brynmor a Margaret Price y naill a'r llall yn blant i genhadon BMS, Fred a May Price a James ac Evelyn Watson. Roedd hen ewythr a hen fodryb Sally, Fred a Gertie Tussell hefyd yn genhadon BMS.
Dywed Sally, “Mae Sinoteach yn gosod gwirfoddolwyr mewn ysgolion preswyl ond rwy'n sicr y bydd yn wahanol i fy mhrofiad innau fel disgybl preswyl yn y 1950au ac yn wahanol iawn i sut oedd pethau pan oedd fy nhad yn ysgol Cheefoo yn Tsieina 1930au.
Ychwanega, “Rwy'n teimlo'n gyffrous ynghylch y cyfle i ddarganfod am y sefyllfa newidiol yn Tsieina, yn enwedig gan imi newydd ddarllen China Road gan Dan Gifford.
“Gobeithio y cawn gyfarfod â Christnogion sy'n siarad Saesneg a chael syniad gwell o sut maen nhw'n edrych ar Gristnogaeth ac efallai sut maen nhw'n teimlo ynglŷn â BMS yn dychwelyd yno.”
Tra bo Sally wedi bod yn dysgu Saesneg i dair o ferched ysgol Tsieineaidd, bu Rhoda, ei chydweithwraig yn Tsieina, yn dysgu Saesneg fel iaith estron am y naw mlynedd diwethaf.
Dechreuodd ei diddordeb yn y wlad tra'n blentyn pan gyfarfu yn fyr â'r genhades arloesol Gladys Aylward.
“Gofynnais bryd hynny tybed a oedd Duw wedi fy ngalw i Tsieina pan oeddwn yn fy arddegau,” meddai, “ond rhoddodd y gwaharddiad ar genhadon stop ar hynny.”
Siaradodd Duw â Rhoda eto Nadolig diwethaf pan ddangosodd ei merch daflen BMS iddi. Naw mis yn ddiweddarach bydd yn mynd yno. Mae'n teimlo'n gyffous ac yn nerfus ynghylch yr hyn sydd o'i blaen.
“Er gwaetha'r ymdrechion i wahardd Duw a'r efengyl o Tsieina mae'r Eglwys yn parhau i dyfu. Rwyf am fod yn gefnogwr ac yn llysgennad i waith yr efengyl. “Rwy'n gobeithio gallu rhoi i Gristnogion ym Mhrydain ddealltwriaeth ddyfnach o'r heriau wrth fyw fel Cristion yn Tsieina, fel gallant weddio yn fwy effeithiol.”
Mae Margaret Gibbs, Ysgrifennydd Rhanbarthol BMS dros Asia, wrth ei bodd fod yr archwiliad y llynedd ynglŷn â dychwelyd i Tsieina yn dwyn ffrwyth.
Dywed, “Agorodd Duw pob drws trwy gydol y gadwyn wyrthiol o ddigwyddiadau a nawr dyma'r bobl gyntaf i gynnig eu hunain i wasanaethu yno, gan gwblhau'r broses gyfan.
“Mae hwn yn destun diolchgarwch a gweddïwn a chredwn y bydd Sally a Rhoda y cyntaf o lawer mwy a fydd yn cynnig mynd i Tsieinia gyda BMS.”
Ymhlith y 'llawer mwy' mae cwpl a fydd yn dechrau ar eu hyfforddiant yng Nghanolfan Genhadol Ryngwladol BMS yn Medi 2010 mewn paratoad at wasanaethu yn Tsieina fel gweithwyr tymor hir.
Gobeithir y bydd nifer o weithwyr tymor hir yn mynd i Tsieina yn ystod haf 2011.
