Cefnogwch ni
Mae BMS World Mission yn ddibynnol ar garedigrwydd eglwysi ac unigolion wrth gyfrannu'n ariannol tuag at gynnal yr holl weithgarwch cenhadol. Mae'r adran hon yn esbonio'r amrywiol ffyrdd y gallwch gefnogi BMS yn ariannol fel eglwys ac yn bersonol.
BMS yw un o'r mudiadau diwethaf sy'n weddill yn y DU sy'n llwyr gefnogi ein gweithwyr tymor hir. Rhennir y cyfrifoldeb ariannol gan y teulu Bedyddiedig cyfan yn hytrach na rhoi pwysau ar ysgwyddau ein gweithwyr unigol.
Rydym yn ddiolchgar am ffyddlondeb y teulu Bedyddiedig wrth roi'n hael at waith BMS. Er mwyn bod yn ffyddlon i'n hymrwymiadau i'n partneriaid a'n gweithwyr parhawn i ddibynnu ar gyfraniadau cyson eglwysi'r Bedyddwyr yn ogystal ag ar ffynonellau newydd ychwanegol megis rhaglen i gefnogwyr unigol a cheisiadau am grantiau.
