Transforming lives on four continents

Dechreuadau newydd: wynebau BMS 2011

Cyfreithwraig, gwyddonydd, athrawon, gweithiwr y Groes Goch a therapydd - dyma rai o'r bobl sydd dan hyfforddiant gyda BMS.

Fis Medi 2011, agorodd BMS World Mission ei drysau yn y Ganolfan Genhadol Ryngwladol (IMC) yn Birmingham i groesawu 19 o weithwyr cenhadol newydd.

 

Bydd y gweithwyr newydd yn treulio amser yn IMC yn cymryd rhan mewn hyfforddiant dwys i baratoi eu hunain naill ai ar gyfer gwasanaeth tymor canolig (dwy i bedair blynedd) neu wasanaeth tymor hir (pedair blynedd neu ragor). 

 

Ymhlith y gweithwyr hyn mae cyfreithwraig, gwyddonydd, ychydig o athrawon, gweithiwr y Groes Goch a therapydd.  Bydd y criw amrywiol yma'n teithio i nifer o wahanol wledydd, yn ymestyn ar draws y byd o Beriw i Wlad Tai. Ar hyn o bryd maen nhw'n rhannu IMC gyda'r gwirfoddolwyr ifanc ar y cynllun Timau Gweithredu sy'n paratoi i fynd tramor ym mis Hydref.

 

Dyma restr o'r bobl yn dechrau ar eu hyfforddiant yn IMC.

 

 
Mae Paul Brown yn gyfrifydd a fydd yn gwasanaethu tymor hir yng Ngwlad Tai gyda'i wraig newydd Sarah.

 

Bydd Angus a Helen Douglas yn gwasanaethu tymor hir yn Nepal. Mae Angus yn dirfesurydd siartedig tra bydd Helen yn defnyddio ei phrofiad fel meddyg teulu dramor.

 

 

 

Daw Fran a Mike Gaunt yn wreiddiol o Newcastle a byddant yn gwasanaethu tymor hir ym Mosambîc. Mae Fran yn ddeintydd ac yn sylfaenydd grŵp ysbrydoliaeth mamau ifainc ac mae Mike yn athro mathemateg uwchradd.

 

Bydd Becky yn gwasanaethu tymor hir yn Affganistan.

 

Mae Laura-Lee Lovering yn wyddonydd amgylcheddol a bydd yn gwasanaethu tymor canolig yn Nauta, Periw, y tu allan i jyngl yr Amason.

 

 

 

 

Daw Joe a Lois Ovenden yn wreiddiol o Sheffield a byddant yn gwasanaethu tymor hir yn Simbabwe.  Bu Joe yn gweithio gyda'r Groes Goch Brydeinig ac mae Lois yn therapydd iaith a lleferydd.

 

Bu Phil Rawlings yn wirfoddolwr BMS yn Nepal ac yn awyddus i ddychwelyd fel gweithiwr tymor canolig.

 

 

 

 

 

Mae Annet Ttendo yn gyfreithwraig o Uganda yn gweithio fel rheolwraig prosiect gyda phartner BMS, Cymdeithas Cyfreithwyr Cristnogol Uganda. Bydd yn gwasanaethu tymor hir yn Mosambîc.

 

Daw Malc a Sue White yn wreiddiol o Gaergrawnt ac ar hyn o bryd heb benderfynu ynghylch lleoliad eu gwasanaeth tymor hir. 

 

Mae Sue yn nyrs arbenigol yn y maes anadlu a Malc yn gynghorydd cyfoeth.

 

 

 

Sylwer na ellir enwi rhai o'r gweithwyr cenhadol newydd yn llawn, na'u nodi o gwbl oherwydd cynllun diogelwch y wlad ble byddant yn gweithio. Gwerthfawrogir gweddïau dros pob un o'r gweithwyr cenhadol newydd!

 

22/09/11
 

© 2013 BMS World Mission Terms & Conditions Privacy Policy Site Map Site Credits