Transforming lives on four continents

Rhaid cynllunio ar gyfer yfory

Ymddangosodd yr erthygl hon gan y Parch David Kerrigan yn Saesneg yn rhifyn 7 Chwefror 2008 o'r Baptist Times ac fe'i defnyddir gyda chaniatâd.

1997 OEDD HI a gadewais dŷ yn Peshawar yng Ngogledd Orllewin Pacistan, a chael fy ngyrru trwy yr enwog Fwlch Khyber. Wrth ddod allan o'r ceunant cul wedi rhai milltiroedd, roedd y gwastadeddau o'm blaen. Felly hefyd oedd ein taith droellog 14-awr i Kabul, arwyddion rhyfel o amgylch, a phresenoldeb bygythiol dynion arfog y Taliban ar bob stryd.
 
Yn bwysicach byth, o'm blaen oedd cyfarfodydd allweddol a fyddai'n arwain misoedd yn ddiweddarach at BMS World Mission yn dechrau gwaith yn Affganistan.
 
Heddiw mae gennym bron i ugain o oedolion a phlant yn y wlad hon. Ac mewn canlyniad i'w gwaith, ac i waith pobl eraill, mae bywydau'n cael eu newid. Mae llai yn marw'n ddiangen, mae merched a bechgyn yn dysgu'n frwd, ac mae cymdeithas fechan o gredinwyr eisoes yn ymffurfio.
 
Yn nhraddodiad Simeon, mae yna lawer sy'n dyheu am weld iachawdwriaeth Duw yn cael mynegiant o fewn corff bywiog a gweithgar o bobl yn y wlad hon, tebyg i un y Testament Newydd yn byw eu ffydd yn gyhoeddus. Ac chredaf y byddwn yn ei weld, hyd yn oed yn ein hoes ni.
 
Rwy'n ei gredu, nid achos bod y dystiolaeth yn awgrymu fod newid mawr ar ddod. Rwy'n ei gredu achos fod hanes y gorffennol yn ein helpu i weld pryd mae Duw yn symud.
 
Can mlynedd yn ôl, roedd pobl Misoram yng Ngogledd Ddwyrain Yr India yn lwyth o helwyr pennau. Bu cenhadon BMS ymhlith y rhai cyntaf i fynd yno, a heddiw mae'r mwyafrif yn Gristnogion, ac mae rhai ohonynt yn rhan o'n tîm cenhadol BMS yn Nepal.
 
Hanner can mlynedd yn ôl, nid oedd unrhyw dystiolaeth Gristnogol i'w chael ym mewndir Parana yn ne Brasil. Roedd cenhadon BMS ymhlith y cyntaf i fynd yno a heddiw, o Parana yn y de i ardal yr Amason yn y gogledd, mae yna eglwys ffyniannus gyda sêl genhadol sy'n gweld gweithwyr yn cael eu hanfon o Frasil i bedwar ban byd.
 
Ugain mlynedd yn ôl, Albania oedd y wladwriaeth atheistaidd addefedig ddiwethaf yn y byd. Dymchwelodd comiwnyddiaeth a bu cenhadon BMS ymhlith y cyntaf i fynd yno. A heddiw mae'r carchariad yna wedi dod i ben, a'r efengyl wedi hen wreiddio yn y tir.
 
Mae i'r hanesion hyn mwy nag un peth yn gyffredin - nid y lleiaf yw cyffyrddiad gras Duw ar y gwledydd hynny. Ond gallwn hefyd nodi ymwneud cenhadol Bedyddwyr o Brydain fel un o'r arfau ddefnyddiwyd gan Dduw ar gyfer trawsnewidiad parhaol.
 
Ond beth am y dyfodol? Oes yna ran o hyd i'r math yma o fenter ble mae pawb ohonom wrth weithio gyda'n gilydd yn cyflawni rhywbeth sy'n wirioneddol strategol?
 
Beth am ddatgan yr amlwg yn gyntaf a chydnabod nad yw teyrngarwch yn gysyniad ffasiynol. Rydm oll wedi clywed y frawddeg, 'Rwy'n Gristion yn gyntaf oll, ond un sy'n addoli mewn eglwys y Bedyddwyr.'
 
Ar ei orau mae'n ddatganiad y byddai llawer o'n cyndadau wedi ei arddel yn llawen. Ar ei waethaf mae'n ildio i'r meddylfryd ynysol sydd i raddau helaeth wedi amddifadu ein byd modern, ac weithiau ein heglwysi, o'r ymdeimlad hwnnw o gymuned neu gyd-ddibyniaeth mae'r Beibl yn ei gymeradwyo.
 
Rwyf hyd yn oed wedi clywed y fath sylw gan bobl a fedyddiwyd neu fagwyd mewn eglwysi Bedyddwyr, wedi eu harwain gan weinidogion a hyfforddwyd mewn colegau Bedyddwyr, yn cynllunio estyniad a noddir gan fenthyciadau'r Undeb, ac yn elwa o arbenigedd staff cenedlaethol a rhanbarthol. Maent yn anfon dynion a merched allan i genhadaeth, gan wybod bydd y teulu Bedyddiedig ehangach, trwy BMS, yn cefnogi'r sawl maent yn eu comisiynu, ymweld â nhw dramor, addysgu plant y teulu, darparu adnoddau i'w gweinidogaethau a chynnig yr ymateb brys gorau posibl mewn argyfwng.
 
Wrth gwrs mae'r pethau hyn yn bosibl yn unig am fod ein heglwysi Bedyddwyr yn eu hariannu yn y lle cyntaf. Nid fy nghri yw bod hyn yn dechrau.
 
Fy nghri yw ei fod yn parhau. Mae'n alwad ar i ni fod yn bobl sy'n edrych yn bellach nag ar yr hyn sy'n ffasiynol ac sy'n dirnad beth sy'n iawn, beth sy'n anrhydeddu Duw.
 
Dyma ddatganiad amlwg arall. Ni roddwyd y Comisiwn Mawr i asiantaeth genhadol. Fe'i roddwyd i'r Eglwys. A chyn belled â bod BMS, a mudiadau cenhadol eraill, wedi bod ar flaen cenhadaeth fyd-eang dros nifer o flynyddoedd, mae hynny wedi bod am i'r eglwys ei gweld fel ffordd effeithiol o gyflawni cenhadaeth.
 
Bu athrylith Carey, ynghyd â'i gyfoedion, yn gymaint yn gyfundrefnol ag oedd yn ddiwinyddol. Yn union fel roedd buddsoddwyr mewn cwmni stoc ar y cyd yn cyflawni amcanion masnachol mewn gwledydd yn bell i ffwrdd, felly hefyd y gwelsant hwythau sut gall tanysgrifwyr gwirfoddol i'r 'Gymdeithas' alluogi cyflawni amcanion cenhadaeth fyd-eang. Nid oes gan BMS yr hawl ddwyfol i fodoli. Yr Eglwys yn unig sydd â'r fraint honno.
 
Ac ymlaen at y nesaf - mae'n amlwg y gall eglwysi lleol fod ynghlwm â chenhadaeth fyd-eang heddiw llawer rhwyddach nag yn y gorffennol. Diolch i Dduw - mae'n digwydd. Nid oes angen ar bobl i lusgo'u hunain allan gyda'r nos, gan golli'r bennod nesaf o Wynebau Newydd Teulu Pobl y Cwm yn Codi Canu O'r Galon, i glywed hanesion o wledydd pell i ffwrdd. Nawr, gallant fynd yno eu hunain. Ac wrth fynd mae eu golwg ar y byd yn newid, eu calonnau'n cael eu cyffwrdd, a dont ar dân dros gweithredu dros y tlodion a'r colledig.
 
Felly, yn amlwg, mae'r ffordd bellach yn gwahanu. Ac fe welwn ddau ddewis o'n blaenau.
 
Mae yna'r dewis sy'n dod i'r casgliad bod ymrwymiad cenhadol ar y cyd wedi dod i ben. Gall eglwysi lleol ei wneud eu hunain. Bu BMS yn gyfleustra nad oes mo'i angen mwyach. Clywir nodau Y dydd a roddaist, Iôr, a giliodd, collwn ddeigryn, a daw'r gwasanaeth diolchgarwch i ben.
 
Ond mae yna ddewis arall hefyd. Un sy'n dod i'r casgliad mai strategaeth sy'n cyfuno ymwneud lleol ac ymrwymiad cydweithredol yw anian ein hoes.
 
Ni fyddai'n eich synnu fy mod yn credu gyda'm holl galon, fel y gwnes pan oeddwn mewn gofalaeth fy hunan, bod cenhadaeth heddiw yn cael ei gyflawni orau pan y'i gwneir gan eglwysi yn bersonol, ac mewn cydweithrediad ag eraill.
 
Mae gan nifer o'n heglwysi gysylltiadau ag eglwysi eraill tramor. Dyna sefyllfa fy eglwys fy hun, ac mae'r cysylltiad hwnnw'n cyfoethogi bywydau pobl yn y naill eglwys a'r llall trwy roi cilyddol a derbyn yn wylaidd.
 
Ond ar wahan i nifer fechan o eglwysi mwyaf y DG, ni all y rhan fwyaf o fewn ein henwad gefnogi'n llwyr un weithwraig genhadol yng ngogledd Angola wrth iddi geisio dwyn gofal meddygol i ardal eang. Ni all yr un gefnogi'n llwyr deulu am bymtheng mlynedd wrth iddynt blannu eglwys yng nghrindir gogledd ddwyrain Brasil, gan lawenhau heddiw yn y twf o Gristnogion dros ardal eang.
 
A dim ond gyda'n gilydd y gallwn gynnal yr ugain person rheini yn Affganistan heddiw, yn darparu ar gyfer eu hanghenion, yn gweddïo dros eu diogelwch, ond yn fwy na hynny yn gweddïo y bydd eu dewrder yn cael ei wobrwyo gan yr egin gwyrdd o fywyd newydd sy'n mynd ymlaen.
 
Fel Bedyddwyr ym Mhrydain gan gennym yn ein dwylo rodd gan Dduw sydd o werth anfesuradwy. Rydym yn deulu. Mae gennym fynegiadau o genhadaeth cydweithredol ar gyfer gartref a thramor nad ydynt yn ffrwyth rhyw syniad gwych gan rywun. Mae rhywbeth o Dduw ynddynt. Maent yn gynrychiolaeth wirioneddol o beth mae'n olygu i fod yn gymuned, corff Crist, a dymuniad Duw yw ein bod yn gweithio fel corff.
 
Rydym mewn perygl o adael i'r rhoddion hyn wywo, ac os gwant, felly fydd hanes y gwaith maent yn eu cynnal.
 
Nid yr ateb yw ychydig i BMS, ychydig i'r Genhadaeth Gartref, ac ychydig i'r eglwys leol. Yr ateb yw i weinidogion ac arweinyddion gael eu hysbrydoli gan y darlun mwy, i feddwl yn strategol a gweithio'n gydweithredol, gartref a thramor. Mae'n rhaid i'r genhedlaeth hon nawr achub ei chyfle, cymryd rhodd Duw o deulu unedig, ac yn gynyddol gwneud i genhadaeth ddigwydd gyda'n gilydd.
 
Mae hon yn frwydr dros galonnau a meddyliau cenhedlaeth. Does neb yn honni bod ganddynt yr ateb i gyd. Does neb yn dweud na ddylid cael newid o'r gorffennol. Ond credwn fod yna dasg genhadol strategol y gallwn ei wneud gyda'n gilydd am na ellid ei wneud wrth ein hunain.
 
Dyna yw'r gwraidd. Dyna sydd y tu cefn i'n pryder ynghylch lleihad rhoddion cenhadol y llynedd.
 
Rhaid cynllunio ar gyfer yfory.
 

© 2013 BMS World Mission Terms & Conditions Privacy Policy Site Map Site Credits