BMS World Mission

Pwy ydym ni

Mae BMS World Mission yn fudiad cenhadol Cristnogol, yn gweithio mewn 34 o wledydd ar bedwar cyfandir. Cred BMS mewn cenhadaeth gyfannol, dull sy’n cadw’n  ffyddlon i’r alwad Gristnogol i efengylu heb esgeuluso’r dyletswydd i ofalu am anghenion corfforol y tlodion. Mae BMS yn gweithio trwy weithwyr tymor hir, tymor canolig a thymor byr, timau a gwirfoddolwyr, yn ogystal â nifer fawr o weithwyr partner noddedig yn eu gwledydd eu hunain, gan ddarparu pobl, arian, hyfforddiant ac arbenigedd mewn ym mhrif feysydd ein gwaith:

 

• Plannu eglwysi
• Datblygiad
• Cymorth argyfwng
• Addysg
• Iechyd
• Cyfryngau ac ymgyrchu

 

Fel un o fudiadau cenhadol Protestanaidd hynaf y byd (sefydlwyd ym 1792 gan  William Carey, tad cenhadaeth fodern) mae gan BMS berthynas hirsefydlog gyda  mudiadau partner, asiantaethau cenhadol cydweithredol ac undebau eglwysi lleol yn y gwledydd ble mae’n gweithio. Mae hyn, ynghyd â gweithredu tymor hir, polisïau moesegol a’r sensitifrwydd diwylliannol pennaf, wedi gwneud BMS yn un o enwau mwyaf dibynadwy mewn cenhadaeth yn fyd-eang.