BMS World Mission

Sut mae’r Cynllun Pen-blwydd yn gweithio?

Mae'n hawdd iawn ...

 

Gall unrhyw un gymryd rhan, gan gynnwys plant. Ar eu pen-blwydd mae aelodau yn derbyn cerdyn pen-blwydd BMS oddi wrth eu Hysgrifennydd Cynllun Pen-blwydd, ynghyd ag amlen rodd ar gyfer gwneud cyfraniad. Maent yn dychwelyd yr amlen rodd at Ysgrifennydd y Cynllun ac anfonir y rhoddion o’r Cynllun at BMS.


Byddwn yn darparu’r holl ddeunydd gan gynnwys posteri, amlenni rhodd, cardiau pen-blwydd a chofrestr i gadw cofnod o’r holl aelodau a’u pen-blwyddi. Darperir rhai o’r adnoddau hyn yn Gymraeg.


I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun archebwch y taflenni rhad ‘Ymunwch nawr’ a 'Cynllun Pen-blwydd BMS yn eich eglwys'.


• Os ydych yn barod i sefydlu’r Cynllun yn eich eglwys, archebwch becyn cychwynnol Cynllun Pen-blwydd BMS neu ffoniwch Pam yn Adran Adnoddau BMS ar 01235 517617.


• Unwaith bydd eich Cynllun wedi ei gofrestru gallwch archebu’r holl adnoddau sydd ei angen arnoch i’w redeg.