Bydd y don yn dechrau yn dawel ar ddydd Gwener 26 Chwefror gyda grwpiau bychain o ddau neu dri yn gweddïo mewn gwledydd megis Bangladesh ac Affganistan ble mae dydd Gwener yn ddiwrnod traddodiadol o weddi. Bydd hyn yn cael ei ategu ar yr un dydd gan staff BMS yn Didcot yn eu cwrdd gweddi ben bore ac yn yr addoliad boreol yn IMC, Birmingham.
Ar ddydd Sadwrn 27 Chwefror, bydd y don yn ymchwyddo gydag eglwysi Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr yn ymateb i alwad y Llywydd, Kingsley Appiagyei i weddi a fydd yn cynnwys sylw i genhadaeth fyd-eang a gwaith BMS.
Dydd Sul 28 Chwefror fe’i gwelir yn cynyddu eto gyda gweddïau’n cael eu hoffrymu mewn gwasanaethau ar hyd Yr Alban a Lloegr, ac yng Nghymru ble bydd dydd gweddi cenedlaethol dros fywyd, gwaith a thystiolaeth Fedyddiedig yn cynnwys gweddi dros BMS.
Ar ddydd Llun 1 Mawrth, y diwrnod sydd wedi ei neilltuo gan BMS ar gyfer gweddi, dychmygwch y don yn ymchwyddo o amgylch y byd, gan ddechrau rhyw saith neu wyth awr o flaen amser Greenwich mewn lleoedd fel Tsieina a Gwlad Tai. Oddi yno mae’n symud trwy’r India, Nepal ac ymlaen i’r Dwyrain Canol; yna mae’n symud ymlaen trwy Affrica ac Ewrop, ar draws yr Iwerydd i Brasil ac yna i Periw ac Ecwador, rhyw bum awr ar ôl amser Greenwich.
Dychmygwch nerth ton enfawr yn ymchwyddo. Dychmygwch nerth ein Duw mawr yn ymateb i weddïau ei bobl.
Byddwch yn rhan o’r don. Yn eich eglwys neu gartref, ymunwch â ni mewn gweddi ar y dydd neu dros y penwythnos.
Ar gael yn fuan: Bydd awgrymiadau gweddi i’w lawrlwytho o’r wefan. Efallai yr hoffech ddilyn y don weddi ar ein blog ac ychwanegu eich sylw i’n hysbysu eich bod yn gweddïo ac i annog eraill o amgylch y byd.