Cyhoeddwyd taflen Gymraeg lliw llawn gan BMS Cymru yn dwyn yr enw BMS Cymru yn cyflwyno BMS World Mission ar gyfer eglwysi a chefnogwyr Cymraeg eu hiaith.
Yn y daflen ceir cyflwyniad am genhadaeth, ychydig o hanes cyfoethog BMS, amlinelliad o weinidogaethau BMS heddiw, a gwybodaeth am ffyrdd o gefnogi BMS.
Mae'r daflen yn addas i'w dosbarthu mewn eglwysi, grwpiau cefnogi BMS megis Grwpiau Dolen ac Adrannau Cenhadol y Chwiorydd, gweithgareddau codi arian at waith BMS, ynghyd â digwyddiadau ehangach megis gweithgareddau cydenwadol a gwaith ysgolion a cholegau.
Os hoffech rhai i'w dosbarthu cysylltwch â Delyth ar ddavies@bmscymru.org