Timau Gweithredu'n dychwelyd adref
Mae Timau Gweithredu BMS yn dychwelyd adref yr wythnos hon ar ôl treulio chwe mis tramor ac maent yn edrych ymlaen at y cam nesaf - taith o amgylch y DG.
Mae hi'n gyfnod o newid i'r 34 o fyfyrwyr blwyddyn gap wrth iddynt addasu i fywyd gartref ond nid yw eu hamser gyda BMS drosodd eto gan eu bod yn mynd ar daith deufis o amgylch gwledydd Prydain.
Bu tri o'r timau yn gweithio yn Brasil (un yn Maranhão; dau yn São Paulo), gyda thri arall yn yr India (dau yn Kolkata; un yn Delhi) ac un o bob un yn Nepal, De Affrica a Gwlad Thai.
Rhyngddynt, bu'r timau ynghlwm wrth ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys gwaith cyn-ysgol, dysgu Saesneg, efengylu, gwersylloedd ieuenctid, grymuso merched, gweithio gyda phlant anabl, a phrosiectau adeiladu a dŵr glân.
Ar ôl treulio ychydig amser gartref, bydd y timau yn ymgasglu unwaith yn rhagor yng nghanolfan hyfforddi BMS (IMC) ar 5 Ebrill am gyfnod o gyflwyno adroddiadau ac i baratoi at eu taith o amgylch yr eglwysi.

Yn ôl Becky Hembury, Trefnydd Timau Cenhadol BMS, mae'n amser pwysig. “Byddwn yn treulio tri neu bedwar diwrnod yn siarad am y teimladau cymysg. Bydd rhai ohonynt yn pylu, ond byddwn yn edrych ar yr hyn byddant am eu cofio a pha wersi i gydio ynddynt.”
Yna daw'r cynllunio ar gyfer y daith, gan gynnwys peth amser yn ailgysylltu â'r eglwysi ble buont yn cael eu hyfforddi yn ystod mis Medi.
Dywed Becky "Mae'r daith yn orlawn! Mae teithio a byw gyda phobl nad ydych yn eu hadnabod yn flinedig; maent yn gwneud hyn am wyth wythnos.”
Ychwanega, “Mae pob dydd yn wahanol – boed yn siarad mewn gwasanaeth ysgol, annerch grŵp hŷn neu arwain gwasanaeth mewn eglwys. Mae gweld gwahanol grwpiau o bobl yn cadw'r timau'n frwd ac i'r unigolion mae gallu rhannu eu profiad gyda'u heglwys eu hunain yn gyffrous iawn.”
Gweddïwch dros bob un o'r timau wrth iddynt ymgartrefu ac addasu i fywyd yn y DG, ac yn enwedig am egni a ffresni wrth iddynt fynd ar y daith. Boed i'w geiriau effeithio ar nifer o bobl yn ein heglwysi a helpu'r sawl byddant yn cwrdd i gael gwell dealltwriaeth o genhadaeth Gristnogol mewn gwahanol ddiwylliannau.
Dyma fanylion ymweliadau'r Timau Gweithredu yng Nghymru:
